Cyfarwaddiadau

Ar Hyd y Ffordd

Mae Clwyd Theatr Cymru’n adeilad brics coch mawr sydd wedi’i leoli ar ben bryn yn edrych i lawr dros dref yr Wyddgrug.  Wrth gyrraedd y dref o bob cyfeiriad, ceir arwyddion cyfleuster hamdden brown a gwyn amlwg yn eich arwain at y Theatr, ac felly mae’n hawdd iawn cael hyd iddi.  Mae ar yr un safle â Neuadd y Sir, Sir y Fflint, sydd hefyd ag arwyddion da iawn.                                

O arfordir Gogledd Cymru, dilynwch yr A55 am Gaer a throwch i ffwrdd yn y gyffordd gydag arwydd Fflint arni.  Yna trowch i’r dde i gyfeiriad Yr Wyddgrug.  Ewch drwy bentrefi Llaneurgain a Sychdyn a chadwch lygad am arwydd clir yn dangos troad i’r dde i mewn i’r Theatr.

O gyfeiriad Caer neu Ogledd Ddwyrain Lloegr, dilynwch yr arwyddion am Ogledd Cymru a Chonwy.  O’r A55, cadwch i’r chwith ac ewch ar yr A494 am yr Wyddgrug.  Wrth i chi gyrraedd y dref, ceir arwyddion da ar gyfer y Theatr ar y dde i chi.                    

O gyfeiriadau eraill, ewch drwy’r Wyddgrug a chymerwch yr A494 am  Queensferry.  Ceir arwyddion ar gyfer y Theatr ar y chwith, yn union wedi i chi adael y dref.

Parcio 

Ceir maes parcio dan do eang o flaen yr adeilad, gyda thwnel yn arwain yn uniongyrchol i gyntedd y Theatr.  Peidiwch â chreu rhwystr wrth y fynedfa i’r anabl a’r gwasanaethau brys wrth y drysau ffrynt os gwelwch yn dda.

Bysus

Ceir arosfan bws y tu allan i’r Theatr, ar y llwybrau o’r Wyddgrug i Fflint a Chaer.  Cysylltwch â Gwasanaethau Bws ‘Arriva’ am yr amserlen ddiweddaraf ar 01352 758657

Rheilffordd

Y gorsafoedd agosaf yw Fflint (5 milltir) a Chaer (11 milltir).

streetmap.co.uk >