Rydym yn falch o gael cyhoeddi bod un o'n dramâu mwyaf poblogaidd ar gyfer pobl ieuainc yn dychwelyd i Glwyd Theatr Cymru - drama lwyddiannus "Flora's War" gan Tim Baker - cofnod teimladwy, doniol ac ingol weithiau o fywydau merch ifanc, ei chwaer hyn, eu mam ac efaciwi ifanc yn ystod blynyddoedd yr ail ryfel byd. Mae'r cynhyrchiad yn cynnig cyfle i edrych ar y cyfnod a, gyda gweithdy i gyd-fynd, dangos y gwahaniaeth ym mywydau pob dydd pobl yn ystod blynyddoedd "clytio a thrwsio" y 1940'au a bywyd pobl yn y chwedegau a'r saithdegau cynhyrfus a bywiog.
Mae'n "hanfodol" i ysgolion cynradd ac rydym yn argymell bod athrawon yn archebu eu lle yn fuan er mwyn osgoi cael eu siomi.
"Gwych! Wedi creu'r awyrgylch; y tristwch a'r hapusrwydd"
Ysgol Tan y Castell
Yn cefnogi cwricwlwm Cyfnod Allweddol Dau, mae'r achlysur hwn, sy'n para diwrnod llawn ac yn cynnwys drama a gweithdy, yn edrych ar y gwahaniaethau ym mywydau pob dydd pobl yn y 1940au o gymharu â rhai'r 60au a'r 70au.
Mae'r prosiect hwn ar gael o
ddydd Mawrth yr 8fed o Fehefin tan ddydd Gwener yr 2il o Orffennaf 2010 a dim on £6.00 y plentyn mae'n gostio.
Os hoffech archebu eich lle, cysylltwch â'r
Swyddfa Docynnau ar 0845 330 3565
NEU
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Nerys Edwards ar 01352 701575
addysg@clwyd-theatr-cymru.co.uk