Drama a gweithdy ar gyfer CA2, blynyddoedd 4 6.
Y Prosiect:
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys YMWELIAD AM DDIWRNOD CYFAN â Clwyd Theatr Cymru ac
yn cynnwys perfformiad newydd a gweithdy drama ymarferol cysylltiedig.
Y Cynhyrchiad
Yn seiliedig ar ddetholiad o straeon byr o’r Mabinogion

Y Gweithdy:
• Bydd y gweithdy drama ymarferol, cyfranogol am ddwyawr yn defnyddio “Chwedlau’r Mabinogion" i edrych ar y gelfyddyd o adrodd stori a’r technegau o greu amgylcheddau a chymunedau.
• Diben y gweithdy yw datblygu sgiliau drama a chyfathrebu drwy gyfrwng theatr gorfforol, gemau drama a gwaith byrfyfyr.
Y MABINOGION
(seilir y perfformiad ar y chwedlau penodol hyn).
ThPICThC yn cyflwyno dehongliad theatrig newydd o rai o chwedlau allweddol y Mabinogion ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, gyda sgôr cerddorol wedi’i gomisiynu’n arbennig gan y Cyfarwyddwr Cerdd, Dyfan Jones, a’r creu a’r cyfarwyddo gan Tim Baker, crëwr sawl prosiect ar gyfer CA2, yn cynnwys "Flora's War" a "The Ballad of Megan Morga
n".
Pan fo Pwyll, Brenin Annwn a Thywysog Dyfed, yn gwisgo fel tlotyn ac yn codi cywilydd ar yr Arglwydd Gwawl yn ei wledd briodas, ac yna’n cymryd Rhiannon, gwraig Gwawl, yn wraig iddo’i hun, mae Gwawl a’i gyfaill Llwyd yn cynllunio i ddial arno. Yn y cyfamser, cyhuddir Rhiannon o lofruddio ei mab newydd-anedig ac mae’n dioddef cosb o orfod cludo’r ymwelwyr â’r llys ar ei chefn am saith mlynedd nes bod ei mab yn ymddangos yn gwbl annisgwyl gyda gŵr a gwraig lleol o uchel dras, sy’n ddi-blant. Fodd bynnag, maent yn adnabod nodweddion Pwyll yn y bachgen ac maent yn ei ddychwelyd at Pwyll a Rhiannon ac maent yn ei enwi’n Pryderi.
Wedi marwolaeth Pwyll, mae Gwawl a Llwyd yn rhoi hud ar dir Dyfed ac mae baedd gwyn rhyfedd yn arwain Pryderi, a Rhiannon yn ddiweddarach, at gaer ddieithr sy’n eu troi’n gerfluniau oddi mewn i’r waliau ac yna’n diflannu. Ond flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi i Fanawydan, cyfaill Pryderi, ddal llygoden yn difrodi ei gnydau, mae Llwyd yn ymddangos yn sydyn yn ymbil am einioes y llygoden. Mae’n ymddangos bod ei wraig wedi gofyn i Llwyd ei throi’n llygoden i ddial ymhellach a nawr mae’n agos iawn at gael ei lladd gan Fanawydan. Troir y byrddau ac mae Manawydan mewn sefyllfa i fargeinio. Ond a all berswadio Llwyd i ddychwelyd Pryderi a Rhiannon ac adfer tir a phobl Dyfed a hynny am fywyd ei wraig yn ôl i Llwyd?
Mae Chwedlau’r Mabinogion ymhlith trysorau’r traddodiad adrodd straeon yng Nghymru ac rydym yn cael bod yn rhan o fyd eithriadol ddychmygus ac yn dystion i wythïen gyfoethog o hanes Celtaidd.