Nod Adran Addysg / ThPI Clwyd Theatr Cymru yw cynnig i bobl ieuainc ddigwyddiadau addysgol strwythuredig yn y Saesneg a'r Gymraeg gyda'r bwriad o ehangu gweithgareddau'r theatr a defnyddio pob agwedd ar gelfyddydau'r theatr i annog datblygiad hirdymor yr unigolyn. Ein bwriad yw annog pobl ieuainc i ddefnyddio'r celfyddydau fel cyfrwng i archwlio a bod yn greadigol, a bod yn gerfnogwyr brwd i weithgarwch celfyddydol, fel cyfranogwyr a chynulleidfaoedd y dyfodol.
Rydym yn cefnogi'r datganiad addysg a ganlyn:
Education develops intelligence and ability, creative thought and action, educates feelings and sensibility, explores values, develops physical and perceptual skills and helps the individual move towards an understanding of cultural differences and changes
(Mudiad Gulbenkian: Y Celfyddydau mewn Ysgolion, 1989)
Diben gweithgareddau addysg / ThPI yw ategu a gwella rhaglen y theatr ac maent yn elfen allweddol wrth gynllunio'r rhaglen. Dylai'r gweithgareddau gydnabod anghenion unigolion a grwpiau (ystodau oedran) a, lle bo hynny'n briodol, gydnabod anghenion y Cwricwlwm, er mwyn annog athrawon i wneud defnydd llawn o adnoddau a bod yn llysgenhadon ar gyfer gweithgareddau celfyddydol ar gyfer pobl ieuainc. Dylai'r gweithgareddau addysg / ThPI fod ag amcanion a nodau clir bob amser, bod â strwythur priodol a bod yn ddarostyngedig i werthuso ac arfarnu parhaus.
Drwy gyfrwng Clwyd Theatr Cymru, rydym eisiau creu dyhead am y celfyddydau a gweithgareddau celfyddydol ymhlith pobl ieuainc, a cheisio cyflawni hyn yn ymarferol ar sawl lefel; drwy annog pobl ieuainc i gymryd rhan yn rhaglen y theatr, drwy weithio'n uniongyrchol gyda phobl ieuainc, drwy weithio gydag athrawon a thrwy gynnwys ymgynghorwyr addysg fel ein bod yn gallu integreiddio'n llawn y gweithgareddau addysgol / ThPI yn y theatr yn rhan o'r adnoddau addysgol sydd ar gael yn yr ardal. Rydym eisiau datblygu strwythur staffio gyda chyfrifoldeb fel uwch-reolwyr yn y theatr, fforwm polisi priodol, staff gweinyddol allweddol, gweinyddwr cynorthwyol / cefnogaeth ysgrifenyddol, adnoddau technegol lle bo hynny'n briodol ac adnoddau cyswllt pobl ieuainc.
Tim Baker