Gwaith Allanol

Archif

Mae 18 mis eithriadol lwyddiannus Prosiect Treftadaeth y Loteri yn ardal Maes-glas yn dod i ben ond mae Grwp Greenfield Ghetto yn parhau.

Daeth Grwp Safle Treftadaeth Dyffryn Maes-glas at Theatr Pobl Ieuainc Clwyd Theatr Cymru, a gydnabyddir fel un o'r mudiadau mwyaf blaengar yn gweithio er budd a gyda phobl ieuainc yng Nghymru, i weld a oedd modd canfod dull o gynnwys pobl ieuainc anodd eu cyrraedd mewn prosiect creadigol, prosiect a fyddai'n arwain at well dealltwriaeth o'r ardal ei hun, a mwy o barch ati.

Unlocking Time

Diolch i £24,900 a ddyfarnwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, Parc Treftadaeth Maes-glas a'r Llyfrgelloedd a'r Amgueddfeydd, mae Theatr Pobl Ieuainc Clwyd Theatr Cymru wedi helpu'r bobl ieuainc hyn i sefydlu grwp drama yn eu cymuned eu hunain, i ymchwilio i hanes y Dyffryn. Penllanw hyn oedd perfformiad rhagorol a grëwyd gan y cyfranogwyr ieuainc, yn dwyn y teitl "Datgloi Amser - Unlocking Time", gyda chopïau o'r sgript yn cael eu dosbarthu i ysgolion yn yr ardal. Gyda'r hyder a'r sgiliau maent wedi'u meithrin drwy gyfrwng y profiad, dechreuodd Grwp Drama Greenfield Ghetto ar siwrnai o ddiogelu ei ddyfodol ariannol. Diolch i'r ymgyrchu a wnaed gan y bobl ieuainc eu hunain, mae Cyngor Tref Treffynnon wedi gwneud penderfyniad unfrydol i gefnogi'r grwp ac i'w gynorthwyo yn y dyfodol gyda chefnogaeth ariannol ymarferol.  Diolch i gefnogaeth Cyngor Tref Treffynnon, mae Cymunedau yn Gyntaf wedi camu i'r adwy hefyd i helpu i ddiogelu dyfodol y grwp ac i sicrhau y gall y Theatr ddal ati i ddarparu Mynediad i Ddrama yn rhad ac am ddim i'r Grwp, er lles yr holl bobl ieuainc.

Meddai'r Gweithiwr Drama ymestynnol, Emyr John, sy'n gweithio gyda'r grwp, "Heb gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri i'r prosiect hwn, ni fyddai'r bobl ieuainc arbennig iawn yma wedi cael troedio'r llwybr pwysig hwn a darganfod eu hunain a'u diwylliant".