Gwaith Allanol

Canolfan Dysgu

Bydd y gwaith yn parhau fis Medi gyda'r Ganolfan Ddysgu, yn dilyn cyfnod llwyddiannus iawn o chwe mis.  Nod y gweithdai yw helpu i ddatblygu ac annog creadigrwydd, cydweithrediad a hyder ymhlith y bobl ieuainc yn eu harddegau sy'n mynychu'r ganolfan. Gwnaed hyn yn bosibl drwy gyfrwng cefnogaeth barhaus Scottish Power.

Partneriaeth Plant a Phobl Ieuainc Sir y Fflint
Mae gwaith wedi dechrau eisioes gyda Phartneriaeth Plant a Phobl Ieuainc Sir y Fflint.  Nod y prosiect fydd gweithio i gynhyrchu sioe yn cynnwys pobl ieuainc ac aelodau o'r sefydiad yn seiliedig ar y materion y mae pobl ieuainc heddiw'n eu hwynebu.  Daw'r prosiect i benllanw mewn cyfres o weithdai a pherfformiadau'n creu ymwybyddiaeth o rôl y Bartneriaeth i sefydliadau ledled Sir y Fflint, yn ogystal ag i'r bobl ieuainc eu hunain.

Prosiect System Gyfiawnder i Ieuenctid

Bydd prosiect newydd yn dechrau ar ei gamau cyntaf fis Medi gan weithio gyda'r partneriaid a ganlyn: Swyddog Celfyddydau Sir Ddinbych, Cyfiawnder Ieuenctid Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a Chynulliad Cymru.  Bydd Emyr John yn ymchwilio i ac yn ysgrifennu drama'n seiliedig ar brofiadau pobl ieuainc yn y System Gyfiawnder i Ieuenctid, gan ddod i benllanw mewn cynhyrchiad seiliedig ar y weithdy a fydd yn teithio o amgylch Ysgolion Uwchradd Sir Ddinbych yng ngaeaf 2010.

'Divided by Action'

Bydd Divided by Action yn parhau, diolch i gefnogaeth barhaus URENCO, o fis Medi ymlaen.  Bydd y grwp yn gweithio gyda grwpiau bregus o bobl ieuainc yn y sir, o Gadael Gofal, yr Uned Strategaeth i Bobl yn eu Harddegau, y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lleoli Gyda Theuluoedd.  Bydd y grwp yn parhau i annog creadigrwydd a hyder y bobl ieuainc.

Adfocatiaeth Ieuenctid Sir y Fflint

Bydd gwaith yn dechrau fis Awst gydag Adfocatiaeth Ieuenctid Sir y Fflint ar ffurfio Grwp Drama. Y nod fydd dysgu'r bobl ieuainc sy'n ymwneud â'r grwp y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer theatr fyrfyfyr a fforwm.  Yna, yn y Flwyddyn Newydd, rydym yn gobeithio defnyddio'r sgiliau hyn i edrych ar rai o'r materion sy'n wynebu pobl ieuainc Sir y Fflint heddiw, gan roi iddynt gyfle i archwilio a thrafod.