And Now What?


Mae And Now What? yn berfformiad / gweithdy sy’n edrych ar themâu fel dewis, dinasyddiaeth, cyfrifoldeb personol a chymdeithasol a phwysau o du ffrindiau.  Ar yr un pryd, mae’n cyflwyno pobl ieuainc i rym a chyffro theatr fyw.  Mae’n uniongyrchol gysylltiedig â fframwaith ABaCh, yn arbennig â:        

Datblygwyd y ddrama a’r gweithdy’n wreiddiol (gan yr un tîm) yng Nghatalonia a chafodd gryn lwyddiant yno.  Bellach mae wedi cael ei hailstrwythuro a’i hailysgrifennu’n llwyr ar gyfer cynulleidfa ifanc, fodern yng Nghymru. 

clwyd theatr cymru

Yn y ddrama, mae pedwar ffrind sydd wedi cyrraedd cyfnod yn eu bywyd lle mae’n rhaid iddynt wneud penderfyniadau pwysig am eu ffordd ymlaen, yn dod yn rhan ganolog, yn annisgwyl, o drasiedi sy’n eu gorfodi i ailystyried popeth.  Mae’r profiad a geir gan And Now What? yn unigryw o ran bod y gynulleidfa’n rhan o’r dewisiadau a wneir gan y cymeriadau a thrwy gyfrwng gweithdy sy’n “torri allan” o’r ddrama o dro i dro, mae’r gynulleidfa’n gallu cynghorir’r actorion ynghylch sut i weithredu’n briodol.