The Ballad of Megan Morgan


Awdur a Chyfarwyddwr - Tim Baker

Dylunio - Totie Driver

Perfformiad a gweithdy yn para diwrnod am fywyd yng nghyfnod y Tuduriaid ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2

Dydd Mawrth 24 Chwefror – dydd Gwener 12 Mawrth 2004

Rywle ar gyrion coedwig, wrth ymyl tref fechan tua diwedd Oes y Tuduriaid, mae storm yn chwipio’r coed.  Yn sydyn, yng ngolau mellten chwim, cawn gipolwg ar ferch yn rhedeg i ffwrdd, wedi’i gwisgo fel bachgen. Mae’n llewygu i’r llawr.  

theatre for young people                                        

Mae’n deffro fore trannoeth yng nghwmni pobl sy’n byw ar gyrion y goedwig sy’n garedig iawn gyda hi, yn cynnwys Megan Morgan, sef hen wraig.  Am gyfnod, mae’n ymddangos fel pe bai ei holl helbulon ar ben – nes bod y cynhaeaf lleol yn methu ac nes i Megan gael ei chyhuddo o achosi hynny – gan ei bod yn wrach.  Mae cyfeillgarwch a theyrngarwch yn cael eu profi i’r eithaf yn y stori gyffrous hon sydd wedi’i lleoli yng nghanol y goedwig ac yn edrych ar syniadau a chredoau cyfnod y Tuduriaid. 

“...A wonderful educational resource...” 

                        Ysgol Maes Edwin

“A wonderful production....the best performance I have taken

the children to.” Llanbedr School, Ruthin.

education

Mae’r prosiect hwn yn troi o amgylch bywyd yn Oes y Tuduriaid ac yn targedu elfennau allweddol o’r Cwricwlwm Hanes.  Mae’n cynnwys ymweliad am ddiwrnod cyfan â Clwyd Theatr Cymru ac yn cynnwys perfformiad o The Ballad of Megan Morgan a gweithdy drama cysylltiedig yn para 2 awr.