Cynhyrchiadau dyfodol

‘The Spirit of the Mimosa
Drama newydd gan yr awdur a’r cyfarwyddwr llwyddiannus, Tim Baker

Sut oedd bywyd ym Mhrydain yn Oes Victoria?
Yn fwy penodol, sut fywyd oedd y dosbarth gweithiol yng Nghymru yn y 1850’au yn ei gael, a sut wnaeth o newid?

I rai, roedd yn newid mawr iawn, yn enwedig i’r tua 160 o ddynion, merched a phlant o Gymru a gamodd ar fwrdd y Mimosa ar yr 28ain o Fai 1865 yn Noc Albert yn Lerpwl. Ei chyrchfan oedd Patagonia, ddeufis a thri chyfandir i ffwrdd, a’i chargo oedd holl eiddo, gobeithion, breuddwydion, crefydd ac iaith y dynion a’r merched o Gymru oedd yn teithio arni er mwyn creu bywyd newydd. Yr addewid iddyn nhw oedd llecyn delfrydol ar gyfer creu Cymru newydd, ymhell o galedi ac anawsterau eu mamwlad. Roedd y realiti’n wahanol iawn.

Stori Patagonia yw’r stori enwocaf am allfudo yn hanes Cymru ac yn wyneb caledi mawr ac amodau anobeithiol, llwyddodd yr allfudwyr dewr hyn i greu cymuned Gymraeg ei hiaith sy’n dal i fodoli ac yn ffynnu heddiw, fwy na 7,000 o filltiroedd i ffwrdd. Trefnwyd y daith yn 1865 gan Gymro angerddol, Edwin Cynrig Roberts, o Gilcain yn Sir y Fflint. Y cofnod mwyaf cynhwysfawr o’r siwrnai gyfan yw ‘Yr Hirdaith’ gan Elvey Macdonald. Ganed Elvey ym Mhatagonia ac mae’n un o ddisgynyddion uniongyrchol Edwin Roberts. Mae wedi cytuno i fod yn ymgynghorydd hanesyddol i’r prosiect uchelgeisiol hwn.

Bydd y cynhyrchiad newydd cyffrous hwn yn defnyddio’r Saesneg a’r Gymraeg (a pheth Sbaeneg o bosibl!) er mwyn cydnabod ymdrechion yr allfudwyr i gadw nid yn unig eu diwylliant Cymraeg yn fyw, ond hefyd eu hiaith.

Mae’r ddrama newydd hon wedi’i seilio ar y stori ryfeddol hon ac rydym yn gwahodd ysgolion ledled Gogledd Ddwyrain Cymru i gymryd rhan yn y prosiect hwn, sy’n cynnwys cyswllt â phobl ifanc a chymunedau ym Mhatagonia heddiw. Mae’r prosiect hwn yn addo bod yn siwrnai theatrig ryfeddol i’w gynulleidfaoedd ac fe’i cynhelir mewn gofod theatrig wedi’i greu’n arbennig yn Clwyd Theatr Cymru. Mae hefyd yn ffordd ysgogol i bobl ifanc ddarganfod agweddau ar y cwricwlwm Hanes.

“Am berfformiad gwych llawn gwybodaeth…” (Flora’s War, Ysgol Pen Barras)

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys YMWELIAD AM DDIWRNOD CYFAN â Clwyd Theatr Cymru, gan ddechrau am 9.45am a gorffen am 2.30pm, gan gynnwys perfformiad sy’n awr a 15 munud a gweithdy drama ymarferol yn para dwyawr. Bydd gweithdai cyfrwng Cymraeg ar gael ar ddyddiau Mawrth, 14eg, 21ain a’r 28ain o Fehefin.

Mae’r prosiect ar gael rhwng dydd Mawrth y 7fed o Fehefin a dydd Gwener y 1af o Orffennaf 2011 a dim ond £6.00 y plentyn mae’n gostio. Er mwyn gwneud archeb, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 0845 330 3565 neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Nerys Edwards ar 01352 701575 neu e-bost at addysg@clwyd-theatr-cymru.co.uk.

Perfformiadau i’r Cyhoedd: Dydd Iau 23 & 30 Mehefin am 7.00pm- £5.00, Plant £4.00