Mae Theatr ar gyfer Pobl Ifanc Clwyd Theatr Cymru’n bodoli oddi mewn i strwythur Clwyd Theatr Cymru ac mae ganddi awdurdod dirprwyol drwy gyfrwng y Cyfarwyddwr Cysylltiol, sy’n uniongyrchol atebol i Gyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru.
Fe’i cyllidir gan gyfuniad o gymorth grant refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru, incwm a geir o roi perfformiadau a’r gweithgarwch cysylltiedig â hynny, a grantiau a nawdd arall, ynghyd ag ymrwymiad hirdymor gan Gyngor Sir y Fflint o ran cymorth grant ac adnoddau.
Fis Gorffennaf 1997, ymunodd y Cyfarwyddwr Cysylltiol newydd â’r Theatr, gyda chyfrifoldeb rheoli penodol am Threatr ar gyfer Pobl Ifanc a’i gweithgareddau cysylltiol, gyda briff i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth ar gyfer theatr pobl ieuainc ar y cyd â Chyfarwyddwr newydd Clwyd Theatr Cymru.
Penderfynwyd adnewyddu ac adfywio’r cysyniad o ThME a arferai fodoli ac i gysylltu Theatr ar gyfer Pobl Ifanc yn agosach â gweledigaeth gyffredinol y theatr, a thrwy hynny greu gweledigaeth integredig hirdymor ar gyfer datblygu’r gynulleidfa.
Dechreuwyd y broses hon drwy sefydlu tair elfen o weithgarwch ar gyfer yr adran:
- gweithgarwch craidd yn y ddwy iaith (perfformiadau ar gyfer pobl ieuainc).
- gweithgarwch cefnogi (gweithdai, ymweliadau gan actorion, deunydd cefnogi, sesiynau perfformio, etc.). Mae’r holl weithgarwch cefnogi’n gysylltiedig â rhaglen graidd y brif theatr ac adran y Theatr ar gyfer Pobl Ifanc. Felly maent yn cynnwys cysylltiad â phrif waith marchnata, cyhoeddusrwydd a phroffil cyffredinol y brif theatr.
- y trydedd elfen yw gweithgareddau cyfranogol ar gyfer pobl ieuainc, sy’n cynnwys briff celfyddydol ehangach, yn cynnwys pobl ieuainc mewn gweithgareddau celf ar draws y sbectrwm, yn cynnwys gweithdai drama wythnosol, ysgolion haf, ‘oriel’ addysg a llu o ddigwyddiadau’n cynnwys pobl ieuainc, er enghraifft, Sioe Ranbarthol National Connections a gweithdai Sgiliau Theatr ScottishPower ar gyfer pobl ieuainc.