Cyhoeddwyd Of Mice and Men yn 1937, ddwy flynedd cyn nofel enwocaf Steinbeck, The Grapes of Wrath.
Mae George a Lennie yn ffermwyr teithiol yng Nghaliffornia yn y 1930au. Wrth iddynt lafurio o fore gwyn tan nos, maent yn rhannu’r un freuddwyd un diwrnod bydd ganddynt ddigon o arian i brynu eu fferm eu hunain i gadw gwartheg, ieir a chwningod. Mae eu breuddwyd yn cael ei chwalu pan na all George achub Lenny rhag ei elyn pennaf ei gryfder ei hun.
‘See it you won’t see a better version for a very long time’
Liverpool Daily Post