Cynhyrchiadau Cyfredol
'Thinking Out Loud'

Mae Theatr Pobl Ieuainc Clwyd Theatr Cymru yn adnodd addysgol allweddol ar gyfer Gogledd Cymru, gan greu dramâu newydd, cynnal gweithdai a chefnogi datblygiad pobl ieuainc ledled y rhanbarth.  Mae Theatr Pobl Ieuainc Clwyd Theatr Cymru wedi derbyn Statws Beacon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, i gydnabod rhagoriaeth ei gwaith gyda ac ei budd pobl ieuainc.

Yn ystod mis Chwefror, bydd Tim Baker yn creu drama newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen - 'Thinking Out Loud'.  Yn adlewyrchu datblygiadau cyffrous mewn creadigrwydd a dysg, mae'r prosiect hwn mewn dwy ran.  Yn rhan un, mae gwyddonydd rhyfedd yn ymweld â'r ysgol - gan fesur, cyfrif a chyfrifo.  Mae'r plant yn ei helpu.  Mae'n egluro ei fod yn ceisio cael hyd i'r lle gorau i stori dyfu.  Mae'n gadael gwrthrychau i'r plant ofalu amdanynt. Yn nes ymlaen, pan mae criw o actorion yn ymweld â'r ysgol, mae'r plant yn barod i gymryd rhan mewn antur gan ddefnyddio'r gwrthrychau maent wedi gofalu amdanynt. 

Mae 'Thinking Out Loud' yn ymwneud â sgiliau'r dychymyg, creadigrwydd a meddwl ac - yn gwy na dim - cael hwyl!

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, peidiwch ag oedi i gysylltu â

Nerys Edwards ar 01352 701575

nerys.edwards@clwyd-theatr-cymru.co.uk