|
Gwaith perthnasol
CYSTADLEUAETH YSGRIFENNU NEWYDD DANIEL OWEN
‘Ymdeimlad o Le’
Mae Clwyd Theatr Cymru Theatr ar Gyfer Pobl Ifanc yn lansio gwobr ysgrifennu newydd i ddathlu bywyd un o lenorion mwyaf adnabyddus Cymru, Daniel Owen, o’r Wyddgrug. Mae cerflun ohono i’w weld ger y llyfrgell. Bu farw yn 1895. Rydym yn chwilio am leisiau go iawn heddiw, sydd, fel Daniel Owen, yn gweld y byd y maent yn byw ynddo nawr, ac sy’n gallu cyfleu mewn gwaith ysgrifennu; gwaith ysgrifennu sy’n rhannu’r Ymdeimlad o Le hwnnw gyda gweddill y byd. Os hoffech roi’ch arsylliadau, eich straeon, eich cerddi neu’ch syniadau mewn geiriau cliciwch ar y linc isod:
Am fwy o fanylion ewch yma – TAFLEN CYSTADLEUAETH DANIEL OWEN
Am ffurflen gais ewch yma – FFURFLEN GAIS CYSTADLEUAETH DANIEL OWEN
Gallwch fynegi’ch geiriau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
|