|
|
||||||||||
|
||||||||||
|
Mae Clwyd Theatr Cymru's cynnig rhaglen ddeinamig a chyffrous o ysgolion haf dan arweiniad proffesiynol ar gyfer plant a phobl ieuainc. Eleni, bydd datblygiadau newydd, cyffrous yn rhan o'n rhaglen haf. Rydym wedi:
Dyfeisio a Gwaith Byrfyfyr ar gyfer ieuectic 11 - 13 oed (19 - 23 Gorffennaf)
Dewch atom ni a dewiswch un o'r sigliau perfformio cyffrous uchod. Byddwch yn defnyddio'r sgiliau hyn i ddyfeisio darn o theatr a fydd yn cael ei berfformio i'ch ffrindiau a'ch teulu ar y nos Wener. Geiriau ar Waith ar gyfer ieuenctid 14 - 18 oed (26 - 30 Gorffennaf)
Yna ymunwch â ni wrth i ni roi perfformiad theatrig at ei gilydd mewn dim on un wythnos a chreu chynhyrchiad cyffrous i gael ei berfformio i'ch ffrindiau a'ch teulu ar y nos Wener. Ysgolion Iau ar gyfer plant 6 - 11 oed (2 - 6 & 9 - 13 Awst) Mentrwch i fyd cyffrous perfformio, symud, cerddoriaeth a chynllunio. Ymunwch â ni a chewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau perfformio, eich hyder a'ch creadigrwydd ac, yn fwy na dim, cewch lawer o hwyl! Mae'r Ysgolion Hâf yn £100.00 yr wythnos. Bydd unrhyw deulu sy'n derbyn budd-dal yn cael cynnig gostyngiad o 25% (bydd angen prawf o hyn). Archebwch drwy'r Swyddfa Docynnau ar 0845 330 3565. Neu am fwy o fanylion cysylltwch a Jane Meakin 01352 701576 neu Nerys Edwards ar 01352 701575 neu drwy ebost addysg@clwyd-theatr-cymru.co.uk
|
|||||||||