Word For Word


Drama newydd ar gyfer plant 9-11 oed wedi’i hysgrifennu gan Tim Baker

Drama yw Word for Word am lythrennedd a dinasyddiaeth ac mae’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau theatrig (yn cynnwys barddoniaeth, pypedau a cherddoriaeth) i gyffroi pobl ieuainc am ei ffurf a’i chynnwys. 

Theatre for young people                

Mae criw o ffrindiau ifanc mewn helynt difrifol wedi i antur fynd o chwith – ac mae canlyniadau eu gweithredoedd yn bygwth eu gwahanu am byth.                                  

Dyma ddrama newydd yn dwyn teitl syml, Word for Word.  Y nod yw ceisio ysbrydoli ac annog llythrennedd ac edrych ar syniadau am bobl, lleoedd a dinasyddiaeth.  Mae Word for Word yn ddarn doniol a theimladwy o theatr sy’n arwain ei gynulleidfa ar siwrnai drwy amser a lleoedd gan ddefnyddio barddoniaeth a deialog.  Yn llythrennol, mae’n rhyw fath o Under Milk Wood ar gyfer pobl ieuainc.

I gyd-fynd â’r perfformiad, cynigiwyd dau weithdy cyffrous ar ddiwrnod yr ymweliad – gweithdy drama a gweithdy ysgrifennu creadigol.

Ein nod oedd cynnig diwrnod rhagorol yn y theatr a hefyd -       

a) pwysleisio’r angen am fod yn aelodau gwerthfawr o’r gymuned (ABaCh).

b) symbylu llythrennedd a chwilfrydedd ac edrych ar syniadau am bobl a lleoedd drwy gyfrwng ysgrifennu creadigol, yn arbennig ym maes ysgrifennu estynedig.